Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ynghylch a ddylid ymestyn cymhwysedd ar gyfer Cychwyn Iach ymhellach i gynnwys eraill nad allant gael mynediad i arian cyhoeddus oherwydd rheolaethau mewnfudo.
Mae gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ddiddordeb penodol mewn safbwyntiau gan:
- y rhai sydd heb hawl i gael arian cyhoeddus (NRPF) neu sy’n destun rheolaethau mewnfudo, yn benodol:
- teuluoedd neu rieni NRPF neu sy’n destun rheolaethau mewnfudo sydd ag un neu fwy o blant o dan 4 oed
- mamau NRPF neu sy’n destun rheolaethau mewnfudo a sydd â phlant o dan flwydd oed
- menywod beichiog NRPF neu sy’n destun rheolaethau mewnfudo
- y rhai sydd â diddordeb proffesiynol mewn Cychwyn Iach neu NRPF neu reolaethau mewnfudo
- aelodau eraill o’r cyhoedd
Bydd y cyfnod ymghynghori yn cau am 11:59pm ar 13 Rhagfyr 2024. Gweler tudalen llawn yr ymgynghoriad cyn cwblhau'r arolwg hwn.
Nodiadau am yr arolwg hwn: er mwyn rhannu’r arolwg hwn ag eraill, de-gliciwch i gopïo'r ddolen gyfeiriad uniongyrchol hon a'i gludio. .Peidiwch â rhannu’r tudalen i'r arolwg ar ôl i chi ei ddechrau. Os ydych yn clicio oddi ar y dudalen, dylai barhau yn yr un lle a wnaethoch ei adael, os ydych yn ailagor y ddolen ar yr un porwr.
Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a all ddangos pwy ydych chi yn eich atebion i gwestiynau'r ymgynghoriad.