Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â'r ymgynghoriad hwn

Rydym yn gofyn am farn ar gynigion sy'n ymwneud â phecynnu, edrychiad dyfeisiau ac arddangos manwerthu cynhyrchion tybaco, fepio a nicotin.

Rydym yn croesawu ymatebion gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys:

  • aelodau o'r cyhoedd
  • sefydliadau iechyd
  • cynrychiolwyr diwydiant
  • manwerthwyr
  • awdurdodau lleol

Mae unrhyw un yn gymwys i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Nid oes angen i'r cynigion hyn effeithio'n uniongyrchol arnoch i roi eich barn.

Adolygwch dudalen yr ymgynghoriad yn llawn cyn cwblhau'r arolwg hwn.

Bydd yr arolwg hwn yn cau am 11.59pm ar 2 Hydref 2026.