Neidio i'r cynnwys
0%
 

Sut i gwblhau'r arolwg hwn 

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu sawl pwnc:

  • deunydd pecynnu tybaco
  • edrychiad dyfeisiau tybaco wedi'i wresogi
  • disgrifwyr ar becynnau cynnyrch nicotin a fepio â blas
  • Edrychiad dyfais fêp
  • arddangosfa manwerthu
  • asesiadau effaith cam ymgynghori

Ar ddechrau pob pwnc, gofynnir i chi a ydych am ateb cwestiynau am y pwnc, neu ei hepgor. Os byddwch chi'n dewis hepgor y pwnc, byddwch chi'n mynd yn syth i'r pwnc nesaf yn y rhestr. Fodd bynnag, dim ond os byddwch chi'n cyrraedd diwedd yr arolwg ac yn dewis 'cyflwyno' y bydd eich ymateb yn cael ei ystyried.

Os byddwch chi'n llywio i ffwrdd o'r arolwg, bydd eich cynnydd yn cael ei gadw'n awtomatig. Os byddwch yn ailagor y ddolen yn yr un porwr ag y gwnaethoch ddechrau'r arolwg, byddwch yn gallu parhau â'ch ymateb.

Wrth ymateb i'r arolwg hwn, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a allai nodi pwy ydych chi neu rywun arall. Er enghraifft, peidiwch â chynnwys enw, teitl swydd neu gyfeiriad e-bost unrhyw un, pan na ofynnir amdano.