Sut i gwblhau'r arolwg hwn
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cwmpasu sawl pwnc:
- deunydd pecynnu tybaco
- edrychiad dyfeisiau tybaco wedi'i wresogi
- disgrifwyr ar becynnau cynnyrch nicotin a fepio â blas
- Edrychiad dyfais fêp
- arddangosfa manwerthu
- asesiadau effaith cam ymgynghori
Ar ddechrau pob pwnc, gofynnir i chi a ydych am ateb cwestiynau am y pwnc, neu ei hepgor. Os byddwch chi'n dewis hepgor y pwnc, byddwch chi'n mynd yn syth i'r pwnc nesaf yn y rhestr. Fodd bynnag, dim ond os byddwch chi'n cyrraedd diwedd yr arolwg ac yn dewis 'cyflwyno' y bydd eich ymateb yn cael ei ystyried.
Os byddwch chi'n llywio i ffwrdd o'r arolwg, bydd eich cynnydd yn cael ei gadw'n awtomatig. Os byddwch yn ailagor y ddolen yn yr un porwr ag y gwnaethoch ddechrau'r arolwg, byddwch yn gallu parhau â'ch ymateb.
Wrth ymateb i'r arolwg hwn, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a allai nodi pwy ydych chi neu rywun arall. Er enghraifft, peidiwch â chynnwys enw, teitl swydd neu gyfeiriad e-bost unrhyw un, pan na ofynnir amdano.