Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr) yn ceisio safbwyntiau i lywio penderfyniadau ar gyflwyno rheoliadau ar lefelau gwasanaeth gofynnol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, er mwyn diogelu diogelwch cleifion mewn gwasanaethau ysbyty allweddol yn ystod streic.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymgynghori ar gymhwyso lefelau gwasanaeth gofynnol ar gyfer sectorau eraill. Ym maes iechyd, rydym yn dymuno cael y cydbwysedd cywir rhwng gallu gweithwyr i streicio a diogelu bywyd ac iechyd. Ein cynnig yw bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau ysbyty hanfodol ac sy’n gritigol o ran amser gael eu cwmpasu gan reoliadau lefel gwasanaeth gofynnol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch a ddylai gwasanaethau ysbyty gael eu cwmpasu ac, os felly, pa wasanaethau ysbyty, y lefelau gwasanaeth gofynnol priodol sydd eu hangen, ac a ddylid cynnwys unrhyw wasanaethau iechyd y tu allan i ysbytai.
Mae Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023 yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Nid yw’r ddeddf yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan 11:59pm ar 11 Rhagfyr 2023.
Nodiadau am yr arolwg hwn: rhannu’r arolwg hwn ag eraill, de-gliciwch i gopïo cyfeiriad y ddolen uniongyrchol hon ac i’w gludo. Peidiwch â rhannu’r dudalen i’r arolwg ar ôl i chi ei dechrau. Os ydych yn llywio o’r arolwg, dylai barhau o le y gwnaethoch ei adael, os byddwch yn ailagor y ddolen yn yr un porwr.
Dychwelyd i’r Ymgynghoriad.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion mewnol sydd eisoes yn derbyn gofal ysbyty? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion presennol sydd angen triniaeth ddewisol ar frys? (dewisol) Er enghraifft, rhestrau llawdriniaeth dewisol blaenoriaeth 1 neu flaenoriaeth 2, dialysis, toriad cesaraidd dewisol, neu gychwyn yr esgor.
Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion presennol sydd angen asesiadau brys neu gritigol, diagnosteg neu driniaeth? (dewisol) Nid yw hyn yn cynnwys gweithdrefnau arferol megis gosod pen-glin neu glun newydd.
Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol yn ystod streic ar gyfer cleifion newydd sy’n ymgyflwyno i’r ysbyty fel cleifion y mae angen asesiadau, diagnosteg a/neu driniaeth heb eu cynllunio arnynt? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
Rydym yn cynnig y bydd ysbytai yn trin pobl, sydd angen triniaeth frys yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol, a phobl sy’n derbyn gofal ysbyty ac nad ydynt eto’n ddigon da neu’n gallu cael eu rhyddhau, fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic. Felly, dylai’r lefel gwasanaeth gofynnol sydd ei hangen i sicrhau bod y driniaeth hon yn cael ei darparu i gleifion mewn ysbytai yn ystod streiciau gael eu llywio gan farn glinigol arbenigol, sy’n golygu y gallai’r setiau canlynol o gleifion ddisgwyl cael eu trin fel y byddent ar ddiwrnod pan nad oes streic:
cleifion mewnol sydd eisoes yn derbyn gofal ysbyty cleifion presennol y mae angen triniaeth dewisol brys arnynt a fyddai’n arfer yn cael ei chyflawni yn ystod y cyfnod gweithredu diwydiannol (er enghraifft: pobl sydd ar restrau llawdriniaeth ddewisol blaenoriaeth 1 neu flaenoriaeth 2 (llawdriniaeth sydd ei hangen o fewn 72 awr ar gyfer blaenoriaeth 1, neu 4 wythnos ar gyfer blaenoriaeth 2), pobl sydd angen dialysis, cleifion trawsblaniad pan nodir cydweddiad â darpar roddwr, toriad cesaraidd dewisol neu gychwyn yr esgor) cleifion presennol y bydd neu efallai y bydd angen asesiad brys neu gritigol, diagnosteg neu driniaeth yn yr ysbyty arnynt (er enghraifft diagnosteg a thriniaeth canser neu gardiaidd, ond nid er enghraifft triniaeth arferol i osod pen-glin neu glun newydd) cleifion newydd sy’n ymgyflwyno i’r ysbyty fel cleifion y mae arnynt angen asesiad, diagnosteg a/neu driniaeth heb eu cynllunio yn yr ysbyty, (er enghraifft pobl sy’n ymgyflwyno i’r adran frys, pobl sy’n esgor)
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â chaniatáu i glinigwyr lleol benderfynu a yw eu cleifion yn dod o dan y categorïau lefelau gwasanaeth gofynnol a amlinellir yn yr egwyddorion a restrir uchod yn ystod streic? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
Mae ysbytai’r GIG ym Mhrydain Fawr yn cael eu gweithredu gan ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd, a gaiff is-gontractio rhywfaint o’u gwaith i sefydliadau eraill. Gallai hyn gynnwys gwasanaethau glanhau neu wasanaethau cymorth eraill sy’n cael eu contractio i gwmni preifat; darparwyr trydydd sector, megis mentrau cymdeithasol neu elusennau, yn darparu rhai gwasanaethau; neu sefydliadau eraill y GIG yn darparu gwasanaethau sy’n cefnogi triniaethau ysbyty, gan gynnwys gwasanaethau gwaed a thrawsblannu sy’n hwyluso triniaethau y mae angen platennau gwaed neu organau rhoddedig arnynt.
Mae hyn yn golygu efallai na fydd ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd yn defnyddio’r holl staff sy’n ymwneud â chyflawni gofal hanfodol a ddarperir gan ysbytai. Wrth ysgrifennu rheoliadau’r lefel gwasanaeth gofynnol, gallai’r Ysgrifennydd Gwladol nodi’r math o sefydliadau y mae’r lefel gwasanaeth gofynnol yn berthnasol iddynt. Gallai hyn gyfyngu ar y mathau o gyflogwyr sy’n gallu rhoi hysbysiad gwaith i sicrhau parhad gwasanaethau ysbyty hanfodol yn ystod streic.
Os cyflwynir rheoliadau lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ysbyty, pa fathau o gyflogwyr ydych chi’n credu y dylid eu pennu i ddilyn y rheoliadau hyn yn ystod streic? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
Rydym yn cynnig cyflwyno lefel gwasanaeth gofynnol na fyddai’n berthnasol ond i ofal ysbyty. Ni fyddai’r mesur hwn yn cynnwys gwasanaethau iechyd sydd ar gael yn y gymuned megis fferyllfeydd, meddygfeydd na thimau iechyd cymunedol.
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno na ddylai lefelau gwasanaeth gofynnol gynnwys gwasanaethau iechyd yn y gymuned? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
A ydych chi’n credu bod dewis arall i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn ysbytai, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu parhau i ddefnyddio gwasanaethau hanfodol a diogelu cleifion rhag risgiau i fywyd a niwed sy’n newid bywydau yn ystod streic? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
A oeddech chi, neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod, yn yr ysbyty neu angen mynd i’r ysbyty am unrhyw reswm sy’n gysylltiedig ag iechyd ar ddiwrnod pan oeddech chi’n ymwybodol bod streic yn digwydd?
A yw eich ymddiriedolaeth GIG neu fwrdd iechyd yn cynnal ysbyty a effeithiwyd gan streic ers mis Rhagfyr 2022? (dewisol)
Gan gydnabod efallai fod ffigurau manwl fod ar gael, rhowch eich amcangyfrif gorau ar gyfer y cwestiynau canlynol.
Amcangyfrifwch gyfanswm y diwrnodau yr effeithiodd streic ar ysbyty neu ysbytai a gynhelir gennych. (dewisol) Dewiswch y dewis agosaf.
Faint o oriau ar y cyd a dreuliodd eich ymddiriedolaeth GIG neu reolwyr byrddau iechyd a chlinigwyr yn paratoi am y cyfnod diweddaraf o streicio sy’n effeithio ar eich sefydliad? (dewisol) Dewiswch y dewis agosaf.
Os gwnaethoch ofyn am randdirymiad gan undeb i liniaru effaith y cyfnod diweddaraf o streicio, faint o oriau ar y cyd y bu rheolwyr a chlinigwyr ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd yn eu treulio ar gyflwyno’r cais am randdirymiad? (dewisol) Dewiswch y dewis agosaf.
Faint ydych chi’n amcangyfrif y costiodd i’ch ymddiriedolaeth GIG neu fwrdd iechyd barhau i ddarparu gwasanaethau ysbyty sy’n gritigol o ran amser yn ystod y cyfnod diweddaraf o streicio a effeithiodd ar eich sefydliad? (dewisol) Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, dreuliau megis taliadau goramser. Rhowch eich amcangyfrif gorau a nodwch y mathau o gostau a gynhwysir yn eich cyfrifiad. Hyd at 250 o eiriau.
Yn seiliedig ar gynnig lefel gwasanaeth gofynnol yr ysbyty a amlinellir yn y ddogfen ymgynghori ar GOV.UK, sut fyddech chi’n cymharu’r ymrwymiad amser sydd ei angen ar gyfer gweithredu’r cynnig hwn â’r modd yr ydych yn paratoi am weithredu diwydiannol ar hyn o bryd? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
A ydych yn rhagweld y bydd ymddiriedolaeth y GIG neu’r bwrdd iechyd yn mynd i gostau ychwanegol, naill fel costau sy’n digwydd unwaith neu gostau cylchol, o ganlyniad i weithredu lefel gwasanaeth gofynnol ar gyfer gwasanaethau ysbyty? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
A yw eich undeb llafur wedi galw am weithredu diwydiannol mewn unrhyw ysbyty GIG ers mis Rhagfyr 2022?
Amcangyfrifwch gyfanswm yr oriau a dreuliwyd gan swyddogion eich undebau llafur i weithio gyda rheolwyr ysbytai lleol ac awdurdodau cenedlaethol megis GIG Lloegr er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd hanfodol yn parhau i fod ar gael yn ystod y streic diweddaraf yr oedd eich undeb yn rhan ohono. (dewisol) Mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i drafodaethau ar drefniadau arbennig megis rhanddirymiadau. Dewiswch y dewis agosaf.
O ystyried y cynnig ar gyfer lefel gwasanaeth gofynnol ysbyty a’r cod ymarfer drafft ar y camau rhesymol y dylai undebau llafur eu cymryd, sut ydych chi’n rhagweld y bydd yr ymrwymiad amser i swyddogion eich undeb gymryd y camau rhesymol hyn yn cymharu â’r amser a dreulir ar hyn o bryd yn gweithio gydag ymddiriedolaethau’r GIG neu fyrddau iechyd wrth baratoi am weithredu diwydiannol? (dewisol) Mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i drafodaethau ar drefniadau arbennig megis rhanddirymiadau. Dewiswch y dewis agosaf.
Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
A ydych yn rhagweld y bydd eich undeb llafur yn mynd i gostau newydd, boed yn gostau sy’n digwydd unwaith neu’n gostau cylchol, wrth weithredu’r camau rhesymol fel yr amlinellir yn y cod ymarfer drafft? (dewisol) Esboniwch eich sefyllfa gan ddarparu unrhyw dystiolaeth ategol. (dewisol) Hyd at 250 o eiriau.
Oherwydd eich bod wedi dweud eich bod yn yr ysbyty neu’n adnabod rhywun a oedd yn yr ysbyty yn ystod streic, mae’r cwestiwn hwn yn gofyn i chi sut yr effeithiodd gweithredu diwydiannol yn y GIG ar eich iechyd neu iechyd y bobl yr ydych yn eu hadnabod.
A ydych chi’n credu bod gweithredu diwydiannol ers mis Rhagfyr 2022 wedi effeithio ar eich iechyd neu iechyd rhywun yr ydych yn ei adnabod? (dewisol) Eglurwch eich ateb. (dewisol) Os oes gennych brofiad personol, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion a allai adnabod chi neu bobl eraill, megis eich enw. Hyd at 300 o eiriau.
Oherwydd eich bod wedi dweud eich bod wedi eich cyflogi fel aelod o staff yn ystod cyfnod o streicio, mae’r cwestiwn hwn yn gofyn i chi sut yr effeithiodd gweithredu diwydiannol yn y GIG ar bobl yr oeddech yn gofalu amdanynt yn y gwaith.
A ydych chi’n credu bod gweithredu diwydiannol ers mis Rhagfyr 2022 wedi effeithio ar iechyd eich cleifion? (dewisol) Eglurwch eich ateb. (dewisol) Os oes gennych brofiad personol, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion a allai adnabod chi neu bobl eraill, megis eich enw. Hyd at 300 o eiriau.
Mae’r cwestiynau canlynol yn gofyn am safbwyntiau eich sefydliad ar effaith streiciau ysbyty ers mis Rhagfyr 2022 ar iechyd cleifion.
Pa rai, os oes, o’r categorïau cleifion canlynol ydych chi’n credu yr effeithiwyd arnynt gan weithredu diwydiannol ers mis Rhagfyr 2022? (dewisol) Cleifion sydd ag anghenion iechyd brys a chritigol
Cleifion ag anghenion iechyd eraill sy’n gritigol o ran amser, er enghraifft dialysis, gofal canser, gwasanaethau mamolaeth, newyddenedigol, cardiaidd
Cleifion sydd yn yr ysbyty am resymau nad ydynt yn rhai brys, er enghraifft wardiau meddygol, gofal cleifion mewnol iechyd meddwl, diagnosteg, cymorth i gleifion a ryddheir, gofal diwedd oes
Eglurwch eich ateb. (dewisol) Os oes gennych brofiad personol, peidiwch â rhoi unrhyw fanylion a allai adnabod chi neu bobl eraill, megis eich enw. Hyd at 300 o eiriau.
A oes grwpiau o bobl, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, a fyddai’n elwa o’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rhai neu bob gwasanaeth ysbyty? (dewisol) Pa grwpiau ydych chi’n meddwl y bydd yn elwa a pham? (dewisol)
A oes grwpiau o bobl, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, y byddai’r cynnig i gyflwyno lefelau gwasanaeth gofynnol mewn rhai neu bob gwasanaeth ysbyty yn effeithio’n negyddol arnynt? (dewisol) Pa grwpiau penodol y gallai effeithio arnynt yn negyddol, a pham? (dewisol)
Mae’r cyfleuster ‘darllen dros eich atebion’ yn rhestru’r holl gwestiynau yr ydych wedi’u hateb neu yr ydych wedi cael cyfle i’w hateb.
Bydd clicio ar y botwm ‘Newid’ yn erbyn ateb yn caniatáu i chi newid yr ateb hwnnw.
Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau gwllch wedyn glicio drwy’r arolwg gan ddefnyddio’r botwm ‘Nesaf’, bydd atebion i gwestiynau blaenorol yn cael eu cadw.
Gwasanaethau ysbyty—lefel gwasanaeth gofynnol Y cynnig lefel gwasanaeth gofynnol mewn ysbytai Effaith streic ar eich ymddiriedolaeth neu fwrdd iechyd Effaith streic i’ch undeb llafur Effaith streicio mewn ysbytai Effaith streicio mewn ysbytai—aelod o staff Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus
Mae gennym ychydig o gwestiynau yr hoofed eu gofyn er mwyn gwella ymgyngoriadau yn y dyfodol.
Pa mor fodlon ydych chi â’r broses ymgynghori? (dewisol) Ydych chi'n meddwl y gallem wella'r broses hon? (dewisol)
Thank you for completing the survey. If you would like to share it with others please use this link:
https://consultations.dhsc.gov.uk/6523d06284e26d0973066712
Return to the main GOV.UK page.
Mae'r arolwg hwn bellach wedi cau.